P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Adams and Robert Bevan, ar ôl casglu cyfanswm o 387 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru.

 

Ar 17 Gorffennaf 2018, dywedodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru:

 

"Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol.  Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru."

 

Mae syrcas yn ffurf ar gelf ynddo'i hun. Er bod syrcasau wedi'u cysylltu'n gryf â'r defnydd o anifeiliaid yn y gorffennol, mae'n amlwg bod chwaeth y cyhoedd mewn materion o'r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dangosir hyn gan nifer cynyddol y syrcasau sy'n cynnwys pobl yn unig, ynghyd â llwyddiant y syrcasau hyn. Tra bod y sioeau hyn yn aml yn cael eu perfformio o flaen cynulleidfaoedd llawn heb unrhyw brotestwyr tu allan i'r babell, mae'n deg dweud bod y gwrthwyneb yn wir o ran y syrcasau a'r sioeau teithiol sy'n parhau i ddefnyddio anifeiliaid, hyd yn oed y rhai sy'n defnyddio anifeiliaid nad ydynt wedi'u diffinio fel anifeiliaid gwyllt.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​​Mae pryder mawr ymhlith y cyhoedd ynghylch trosglwyddo gwasanaethau o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'r trosglwyddiadau hyn wedi cael effaith fawr ar breswylwyr Rhondda Cynon Taf. Mae preswylwyr am i'r gwasanaethau ddychwelyd.

Poblogaeth Rhondda Cynon Taf yw 235,000, gyda datblygiadau tai mawr yn codi yn ne'r fwrdeistref ac yn awdurdod cyfagos Caerdydd, sy'n agos at Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd y datblygiadau hyn yn cael effaith ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae preswylwyr yn mynegi pryderon yn barhaus am fynediad at y gwasanaethau hyn ers i rai o'r newidiadau ddigwydd. Mae'r materion yn cynnwys amseroedd teithio yn achos triniaeth frys, gorfod mynd i glinigau yn rheolaidd a chysylltiadau trafnidiaeth gwael i deuluoedd a ffrindiau ymweld â chleifion, a dim ond rhai o'r sylwadau a wnaed yw'r rhain.

 

Y prif feysydd y mae preswylwyr yn pryderu amdanynt yw:

·                 Mamolaeth - sydd eisoes yn destun ymchwiliad

·                 Pediatreg

·                 Uned Gofal Babanod Arbennig

·                 Adran Damweiniau ac Achosion Brys

·                 Pobl hŷn yn baglu ac yn cwympo, gan arwain at farw yn yr ysbyty

·                 Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau

·                 Gwasanaethau Cardiaidd

·                 Effaith ar wasanaethau meddygon teulu/gofal sylfaenol lle mae meddygfeydd meddygon teulu yn cael eu rheoli gan feddygon locwm yn bennaf, sy'n sefyllfa gronig yn y Rhondda yn benodol – methu â recriwtio meddygon teulu

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pontypridd

·         Canol De Cymru